Diffyg hyder yn hytrach nag diffyg gallu yw problem Cymru, yn ôl maswr Seland Newydd, Dan Cartrer.

Llwyddodd Cymru i wthio De Affrica a’r Crysau Duon yn Stadiwm y Mileniwm dros yr wythnosau diwethaf ond methon nhw a chipio’r fuddugoliaeth.

Serch hynny mae perfformiadau’r tîm wedi creu argraff ar Dan Carter.

“Mae Cymru wedi gwella dros y pythefnos diwethaf ac r’yn ni’n credu eu bod nhw’n dîm da iawn,” meddai Carter.

“Pe bai gyda nhw fwy o ffydd yn eu gallu eu hunain fe allan nhw faeddu unrhyw dîm yn y byd.

“Mae hunan hyder yn allweddol er mwyn curo unrhyw un o dimau hemisffer y de.

“Roedd eu taclo’n gorfforol ac roedden nhw’n dal ‘mlaen i feddiant am gyfnodau hir oedd yn rhwystredig i ni.

“Roedd Cymru wedi rhoi ni o dan bwysau am y rhan fwyaf o’r gêm, ond fe lwyddon ni i sgorio’r ceisiau ar yr adegau allweddol.”

Mae Cymru wedi mynd saith gêm brawf heb yr un fuddugoliaeth.

Bydd y wlad yn gobeithio bod hynny ar fin newid wrth iddyn nhw baratoi i herio Lloegr yng Nghaerdydd yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 4 Chwefror.