Mae tirlithriad wedi atal trenau a cheir rhag teithio rhwng Bargod a Rhymni.
Clywodd Heddlu Gwent ddydd Mercher bod twll pum metr o ddyfnder wedi ymddangos ger y rheilffordd a’r hewl ger gorsaf drenau Tir-Phil.
Bydd bws yn rhedeg rhwng Bargod a Rhymni yn lle’r trenau am y tro.
Mae’n debyg bod y tirlithriad wedi dod a llinellau pŵer i lawr hefyd, ac mae rhan o’r ffordd wedi dymchwel.
Dywedodd Cyngor Caerffili eu bod nhw wedi gweithio trwy’r nos i ddiogelu’r ardal ond bod y ffordd yn dal ar gau.