Mae cyn uwch swyddog gyda S4C wedi cyhuddo Adran Diwylliant Llywodraeth San Steffan o fwlio mewn dadl yn y Senedd heddiw.

Dywedodd Alun Davies, AC Llafur Canolbarth a Gorllewin Cymru, nad oedd yr Adran Diwylliant wedi ymddwyn yn briodol wrth geisio gorfodi S4C i dorri ei chyllideb yn anghyfreithlon.

Arweiniodd cyn-Weinidog Treftadaeth Cymru, Rhodri Glyn Thomas, y ddadl heddiw ynglŷn â dyfodol darlledu yng Nghymru.

Dywedodd fod yna angen anhepgor ar gyfer S4C fyddai’n rhan ganolog o ddarlledu cyhoeddus a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

“Mae ein heconomi ni eisoes yn dioddef ac allen ni ddim caniatáu bygythiad i ddyfodol S4C, sydd yn rhan hollbwysig o lwyddiant cymaint o fusnesau yn y diwydiant creadigol,” meddai.

Galwodd am adolygiad manwl o’r ffordd yr oedd S4C yn cael ei redeg, a fyddai’n edrych ar yr awdurdod “o’r top i’r gwaelod”.

“Os nad yw annibyniaeth S4C yn cael ei sicrhau, a’r gefnogaeth ariannol yn parhau tu hwnt i 2015, nid yn unig swyddi yn S4C fydd yn cael eu peryglu ond swyddi busnesau ar draws Cymru.”

Yn y ddadl drawsbleidiol ynglŷn â dyfodol y sianel heddiw, galwodd Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Penfro, y dylid datganoli cyfrifoldeb dros y sianel i Gymru.

Dyw darlledu ddim yn fater sydd wedi ei ddatganoli i Gymru ar hyn o bryd.

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, am sicrwydd ariannol i’r sianel yn y dyfodol.

Dechrau’r mis arwyddodd arweinwyr pob un o brif bleidiau Cymru lythyr ar y cyd at y Prif Weinidog, David Cameron, yn galw am adolygiad annibynnol a chynhwysfawr o S4C.