Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan wedi penderfynu peidio traddodi araith yn Aberystwyth yn sgil pryderon y byddai ymgyrchwyr yn ceisio tarfu arni.

Canslodd Cheryl Gillan ei hymweliad gyda Phrifysgol Aberystwyth ar ôl i’r heddlu rybuddio ei bod hi’n darged i brotestwyr yno.

Dywedodd Swyddfa Cymru y byddai’n ceisio ymddangos ryw bryd eto.

Cafodd grŵp ei sefydlu ar Facebook yn galw ar brotestwyr i ymgyrchu yn erbyn toriadau’r llywodraeth yn ystod araith Cheryl Gillan nos yfory.

Yr wythnos diwethaf fe drodd protest gan fyfyrwyr yn Llundain yn erbyn ffioedd dysgu uwch yn dreisgar.

Cyngor yr heddlu

“Fe wnaethpwyd y penderfyniad ar ôl cyngor Heddlu Dyfed-Powys, a ddywedodd fod yna ymgyrch sylweddol gan fyfyrwyr yn cael ei gynllunio ar Facebook,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa Cymru.

“Mae’n debyg eu bod nhw wedi cael gwybod bod yna fygythiad uchel y byddai’r myfyrwyr yn tarfu ar ei haraith nos yfory.

“Fe fyddai wedi cymryd lot o adnoddau’r heddlu er mwyn rheoli’r sefyllfa ac roedd yna awgrym y byddai’n rhaid galw heddlu i mewn o ardaloedd eraill hefyd.

“Ar ôl beth ddigwyddodd yn Llundain yr wythnos diwethaf penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad oedd o’n briodol ailgyfeirio adnoddau’r heddlu i oruchwylio protest yn ystod araith wleidyddol allai gael ei thraddodi ar unrhyw adeg.”

Facebook

Roedd y grŵp Facebook yn annog myfyrwyr i “ddod i ddangos i Gillan beth ydan ni’n ei feddwl o’i llywodraeth”.

“Mae’n rhaid i gymaint o bobol a phosib cymryd rhan er mwyn boddi ei haraith gyna’n dicter. Does dim croeso i Gillan ddod i Aberystwyth a phregethu ynglŷn â pharch!”

Dywedodd yr Athro Roger Scully, cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru’r Brifysgol, eu bod nhw wedi edrych ymlaen at groesawu Ysgrifennydd Cymru.

“Er ein bod ni’n siomedig ei bod hi wedi gorfod oedi ei hymweliad rydym ni’n gobeithio y bydd hi’n bosib ail-drefnu’r ddarlith ar ryw adeg yn y dyfodol agos,” meddai.