Mae asgellwr Cymru, Shane Williams, yn wynebu o leia’ deg wythnos ar yr ystlys ar ôl iddo ddatgymalu ei ysgwydd yn erbyn De Affrica dros y penwythnos.
Fe allai hynny olygu na fydd chwaraewr y Gweilch ar gael ar gyfer dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ar 4 Chwefror.
Roedd rhaid i’r Cymro adael y cae ar hanner amser yn erbyn y Springboks yn dilyn tacl drom. Fe ddywedodd ffisiotherapydd Cymru, Mark Davies, bod ysgwydd Shane Williams wedi cael ei datgymalu cyn mynd yn ôl i’w lle ar unwaith.
“Fe fydd yn cael llawdriniaeth yn ystod y 48 awr nesaf i asesu maint y difrod. Ond r’yn ni’n gwybod y bydd mas am o leia’ ddeg wythnos,” meddai.
Anafiadau eraill
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, hefyd wedi colli’r wythwr Andy Powell ar gyfer y gêm yn erbyn Fiji nos Wener.
Fe chwaraeodd Powell i Gymru dros y penwythnos am y tro cyntaf ers y digwyddiad gyda’r bygi golff ym mis Chwefror eleni.
Mae chwaraewr Wasps wedi dioddef anaf i’w werddyr ac fe fydd yn cael ei ail asesu’r wythnos nesaf.
Fe fydd y prop, Gethin Jenkins hefyd yn absennol unwaith eto ar ôl colli’r gêm yn erbyn y Springboks dros y penwythnos.
Ond mae’r blaenasgellwr Dan Lydiate, a oedd hefyd wedi’i anafu ar gyfer gêm De Affrica, ar gael i wynebu Fiji.
Fe ddylai’r blaenasgellwr arall, Sam Warburton, ddychwelyd i chwarae yn erbyn Seland Newydd.
Llun: Shane Williams