Fe fydd gyrwyr trenau Arriva yng Nghymru’n cynnal cyfres o streiciau yn ystod yr wythnosau nesa’.

Yn ôl undeb Aslef, roedd 80% o’u haelodau wedi pleidleisio mewn balot streicio ac roedd naw o bob deg ohonyn nhw o blaid gweithredu.

Maen nhw’n dweud bod gyrwyr yng Nghymru’n cael cyflogau is na gyrwyr yng ngweddill gwledydd Prydain.

Fe fydd y 470 o aelodau’n cynnal streiciau undydd ar Dachwedd 19, 26 a 27 ac mae undeb arall, yr RMT, yn bwriadu cynnal pleidlais hefyd.

‘YCymry’n cael cam’

“Mae hwn yn anghydfod clir ynghylch cyflog,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Aslec, Keith Norman. “Mae ein haelodau yn Arriva Trains Wales wedi gweld eu cyflogau’n cwympo’n is na’u cydweithwyr yng ngweddill y diwydiant.

“Fyddan nhw ddim yn cael eu cosbi am weithio yng Nghymru. Fyddwn ni ddim yn derbyn bod ein gyrwyr yng Nghymru yn ddinasyddion eilradd.”

Mae’r cwmni wedi gwneud cynnig cyflog newydd ond, yn ôl yr undeb, dyw hwnnw ddim yn dderbyniol. Mae disgwyl trafodaethau rhwng y ddwy ochr.

Llun: Tren Arriva (John Lord – CCA 2.0)