Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu troi cefn ar eu haddewid i gael gwared ar ffioedd dysgu deufis cyn yr Etholiad Cyffredinol, datgelwyd heddiw.

Yn ôl dogfennau cudd ddaeth i sylw papur newydd y Guardian roedd y blaid eisoes wedi penderfynu cyfaddawdu pe baen nhw’n ffurfio clymblaid yn dilyn yr etholiad.

Datgelwyd y ddogfen mewn llyfr newydd ynglŷn â thrafodaethau ffurfio’r glymblaid yn San Steffan gan Rob Wilson, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Reading East.

Roedd y dogfennau wedi eu hysgrifennu mis cyn i Nick Clegg addo yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ym mis Ebrill y byddai’n cael gwared ar “bwysau marw dyled” myfyrwyr.

Roedd o ac Aelodau Seneddol eraill o’i blaid wedi arwyddo addewid Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i “bleidleisio yn erbyn unrhyw gynnydd mewn ffioedd dysgu”.

Mae’r ddogfen ‘cyfrinachol’, ysgrifennwyd ar y cyd gan dîm o Ddemocratiaid Rhyddfrydol blaenllaw ar 16 Mawrth, yn nodi na fydden nhw’n gwireddu addewid eu maniffesto i gael gwared ar ffioedd dysgu o fewn chwe blynedd pe bai yna senedd grog yn dilyn yr etholiad.

“Ar bwnc ffioedd dysgu fe ddylen ni ddod i gytundeb gyda myfyrwyr rhan amser a gadael y gweddill,” meddai Danny Alexander yn y ddogfen.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi denu’r rhan fwyaf o feirniadaeth myfyrwyr sy’n teimlo eu bod nhw wedi troi cefn ar addewidion a wnaethpwyd cyn yr etholiad cyffredinol.

Mae’r llyfr hefyd yn datgelu bod y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, mor awyddus i ffurfio clymblaid ei fod o wedi cynnig hanner y seddi yn y Cabinet i’r Democratiaid Rhyddfrydol.