Sleifiais o fyd cysurus newyddiaduraeth brint heddiw er mwyn cymryd rhan yn rhaglen Dau o’r Bae ar Radio Cymru. Er bod cael fy nghloi mewn cwpwrdd dillad gyda dim ond meicroffon yn stiwdio Llanbed yn brofiad reit frawychus i ddechrau, fe wnes i fwynhau’r drafodaeth yn fawr. Mae’n bosib clywed y rhaglen fan hyn.

Un pwynt diddorol gododd yn ystod y drafodaeth na ches i gyfle i ymateb iddo ar y pryd oedd sylw Rod Richards, cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg, fod bai ar Heddlu’r Met am adael i bethau fynd allan o reolaeth yn ystod protest y myfyrwyr yn Llundain ddydd Mercher.

Mae’r heddlu wedi dweud eu hunain bod beth ddigwyddodd yn “embaras” iddyn nhw, a’r farn gyffredinol ydi y dylen nhw fod wedi gyrru mwy o blismyn. Ond dw i’n teimlo trueni dros yr heddlu, braidd – dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n gallu ennill.

‘Dim ond’ 225 o heddlu oedd yn y brotest, mae’n debyg. Ond o ystyried faint o feirniadaeth mae Heddlu’r Met wedi ei dderbyn am fod yn llawdrwm dros y blynyddoedd diwethaf alla’i greu fod yna amharodrwydd i arddangos llawer mwy o rym na hynny. Mae ’dim digon o heddlu’ yn gwyn pur anghyffredin mewn protestiadau yn ddiweddar – fel arfer fel arall mae hi. Mae’n arwyddocaol bod cyfarfod y G20 yn cael ei chynnal heddiw – os ydych chi’n cofio, mewn protest yn erbyn cyfarfod y G20 yn Llundain y llynedd y buodd Ian Tomlinson farw yn fuan ar ôl cael ei fwrw i’r llawr gan swyddog yr heddlu.

Dychmygwch beth fyddai ymateb y Daily Mail pe bai myfyrwyr diniwed dosbarth canol yn cael eu hamgylchynu a’u bygwth yn y fath ffordd. Dim ond un heddwas arfog fyddai’n gorfod gor-ymateb ac y byddai gan bennaeth y Met ben tost am fisoedd.

Dan yr amgylchiadau, efallai ei fod o’n saffach cael dim digon o heddlu, weithiau.

Gyda llaw, sylwais i mai dim ond un heddwas druan oedd yn y brotest yn erbyn toriadau S4C dydd Sadwrn diwethaf. Lwcus nad oedd yna anarchydd penboeth ymhlith y protestwyr neu fe fyddai’r Hen Swyddfa Gymreig wedi ei chael hi!