Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi defnyddio actorion ‘meddw’ er mwyn gweld pa dafarndai oedd yn fodlon eu sefrio nhw.

Llwyddodd rhaid o’r meddwon i brynu diodydd er eu bod nhw’n siarad yn aneglur, yn taro byrddau a chadeiriau drosodd, ac dweud wrth staff eu bod nhw wedi “bod yn yfed drwy’r dydd”.

Yn 42 o’r 49 tafarn fe wnaeth y staff werthu diod i’r ‘meddwon’, er eu bod nhw’n ansefydlog ar eu traed, yn gwisgo hen ddillad anniben, ac yn cario poteli i mewn ac allan o’r tafarndai.

Roedd yr heddlu wedi targedu tafarndai ar draws Conwy a Sir Ddinbych yn ystod mis Hydref.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi ymweld â 25 o’r tafarndai er mwyn gweld a oedd unrhyw bobol oedd wir yn feddw wedi cael prynu diodydd yno.

Fe fydd 11 o’r tafarndai rheini yn cael eu herlyn.

Dywedodd y Prif Arolygydd Andrew Williams, nad oedd o’n “ymddiheuro am y dacteg ac y byddai’n cael ei ddefnyddio eto”.

Dywedodd Haydn Williams, daliwr trwydded Old White House yng Nghonwy, wrth bapur newydd The Publican, nad oedd o wedi gweld yr actorion ond bod yr heddlu wedi bod yn “hollol dwyllodrus”.

“Rydw i’n gallu gweld o le maen nhw’n dod ond tydi hyn ddim yn ddefnydd da o amser yr heddlu,” meddai.