Mae’r Seintiau Newydd wedi dod a chytundeb eu hamddiffynnwr a chyn gapten Steve Evans i ben.
Daw’r penderfyniad ar ôl i gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru gael dirwy am droseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Fe gafodd Evans ei ollwng fel capten y clwb a’i wahardd rhag chwarae nes bod y clwb yn cynnal gwrandawiad disgyblu.
Fe gafodd yr amddiffynnwr chwarae i’r Seintiau Newydd unwaith eto, ar ôl cytuno i chwarae rhan wrth helpu i ddatblygu chwaraewyr ifanc.
Ond ers hynny mae Steve Evans wedi gwrthod y dyletswyddau ychwanegol ac mae’r clwb wedi penderfynu ei ollwng yn gyfan gwbl.
“Roedd y clwb wedi gobeithio datrys y mater drwy gynnig cytundeb i Steve, ac roedd o wedi cytuno yn wreiddiol,” meddai’r Seintiau Newydd mewn datganiad.
“Yn anffodus, fe benderfynodd Steve beidio arwyddo’r cytundeb a doedd dim dewis gan y clwb ond diddymu ei gytundeb ar sail camymddwyn ddifrifol.”
Llwyddiant
Fe dreuliodd Steve Evans cyfanswm o ddeg mlynedd gyda’r Seintiau Newydd ar ôl ymuno o Crewe Alexandra.
Yn ystod ei saith mlynedd gyntaf gyda’r tîm fe gyraeddasant nhw frig Uwch Gynghrair Cymru dwywaith, yn 2005 a 2006, cyn iddo adael er mwyn ymuno â Wrecsam.
Fe gafodd ei enwi’n chwaraewr y flwyddyn gyda Wrecsam yn ei dymor cyntaf, ac fe aeth yn ei flaen i ennill cap dros Gymru yn erbyn Lichtenstein.
Fe ail ymunodd gyda’r Seintiau Newydd ym mis Chwefror 2009, ac fe enillodd y clwb y dwbl y llynedd.