Mae disgwyl y bydd yr ymgyrchydd democrataidd a’r enillydd Gwobr Nobel, Aung San Suu Kyi, yn cael ei rhyddhau gan yr awdurdodau milwrol yn Burma.

Fe ddaw hynny ddyddiau wedi iddyn nhw gadarnhau eu bod yn dal gafael mewn grym.

Mae gwrthwynebwyr y Llywodraeth wedi eu cyhuddo o dwyll wrth ennill yr etholiadau cynta’ yn y wlad ers 20 mlynedd.

Bryd hynny, yn 1990, fe enillodd plaid Aung San Suu Kyi fwyafrif clir ond fe wrthododd y junta milwrol iddi gymryd yr awenau ac mae wedi ei chadw’n gaeth am y rhan fwya’ o’r amser ers hynny.

Fe gafodd y canlyniadau diweddaraf eu cyhoeddi ar yr un diwrnod ac y collodd yr ymgyrchwraig apêl i’w rhyddhau o gaethiwed yn ei chartref.

Ond, fe fydd tymor y ddedfryd yn dod i ben beth bynnag yfory ac mae cynorthwywyr agos yn teimlo’n obeithiol y caiff ei rhyddhau.

Roedd ei phlaid hi wedi gwrthod cymryd rhan yn yr etholiadau a dyw’r junta ddim wedi cadarnhau y bydd y gwleidydd 65 oed yn cael ei rhyddhau ond mae swyddogion diogelwch wedi awgrymu hynny.

Twyll

Unwaith y bydd Aung San Suu Kyi yn cael ei rhyddhau, fe fydd ei phlaid, y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth, yn ceisio gwneud honiadau ffurfiol am dwyll yn yr etholiadau.

Yn y gorffennol, dyw’r Llywodraeth filwrol wedi gadael iddi deithio y tu allan i’r brifddinas, Rangoon – gan bryderu y byddai ei phoblogrwydd yn annog gwrthwynebiad iddyn nhw.

Fe gafodd yr ieuengaf o blant Aung San Suu Kyi, Kim Aris, 33 sy’n byw ym Mhrydain fisa i ymweld â Burma yr wythnos hon – sy’n golygu y gallai weld ei fam am y tro cyntaf ers 10 mlynedd.