Mae ymchwiliad wedi dechrau yn Ysbyty Stafford heddiw ar ôl i ddau o efeilliaid newydd anedig farw yn dilyn camgymeriad honedig gan staff.
Dyma’r ysbyty sydd wedi bod ynghanol ymchwiliadau eraill ar ôl honiadau bod cannoedd o bobol wedi marw’n ddiangen yno tros gyfnod o dair blynedd.
Mae ymchwiliad eisoes ar y gweill i ddeall sut yr oedd safonau gofal mor wael wedi cael eu caniatáu yno.
Yn yr helynt newydd, mae un aelod staff wedi’i hatal o’i gwaith ac mae’n debyg fod yr efeilliaid wedi marw ar ôl camgymeriad oedd yn ymwneud â chyffuriau.
Fe fu’r bechgyn bach farw 11 diwrnod yn ôl yn Ysbyty Prifysgol Gogledd Swydd Stafford ar ôl cael eu trosglwyddo yno o Ysbyty Stafford – sydd wedi’i beirniadu’n hallt am lefelau gofal gwael.
Ymchwiliad allanol
Mae Sefydliad Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Canol Swydd Stafford sy’n gyfrifol am yr ysbyty’n dweud bod y marwolaethau wedi eu sigo a’u bod yn meddwl am deulu’r bechgyn.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi comisiynu ymchwiliad allanol llawn i’r digwyddiad a bod yr ymchwiliad hwnnw’n cael ei gynnal gan feddyg pediatrig annibynnol.
Doedd llefarydd ar ran yr ysbyty ddim yn fodlon rhoi datganiad ynghylch union amgylchiadau marwolaethau’r bechgyn.
Fe ddywedodd Peter Walsh, Prif Weithredwr diogelwch cleifion elusen Action Against Medical Accidents fod yr achos hwn yn “drasiedi ofnadwy”.
Llun: Un o wardiau’r ysbyty (o wefan yr Awdurdod)