Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i farwolaeth amheus dynes 57 blwydd oed ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth.
Fe wnaeth yr heddlu dderbyn galwad am y digwyddiad yn ardal Maes y Felin tua 5 o’r gloch nos neithiwr.
Mae dyn wedi’i arestio ynglŷn â’r digwyddiad ac yn derbyn gofal yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall ar hyn o bryd ond mae ystafell arbennig wedi ei sefydlu yng ngorsaf heddlu Rhydaman ac mae’r Crwner lleol wedi cael clywed am y digwyddiad.
Llun: Pontyberem (Rose a Trew Clough CCA 2.0)