Mae disgwyl i’r Cynulliad gefnogi mesur newydd i osod systemau diffodd tân ym mhob cartref newydd yng Nghymru.

Fe fyddai’n golygu gosod chwistrellwyr dŵr sy’n gweithio’n awtomatig pan fydd tân – a hynny’n costio rhwng tua £1,000 a £1,700 ar gyfer pob tŷ.

Fe benderfynodd un o bwyllgorau’r Cynulliad o blaid cefnogi’r mesur sydd wedi ei gynnig gan AC Dyffryn Clwyd Ann Jones.

Roedd hynny er gwaetha’ pryderon am y gost o gyfeiriad cynrychiolwyr y diwydiant adeiladau a chymdeithasau tai.

Tystiolaeth yn argyhoeddi

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Rosemary Butler, doedd dim modd osgoi’r dystiolaeth fod 80% o farwolaethau mewn tanau yn digwydd yn y cartref.

“R’yn ni wedi derbyn tystiolaeth i’n hargyhoeddi ni y byddai systemau llethu tân awtomatig yn effeithiol yn ychwanegol at y mesurau sy’n bod eisoes.”

Roedd cefnogwyr y mesur yn dweud y byddai gosod y systemau newydd yn gwella diogelwch i ddiffoddwyr tân hefyd ac yn arwain at arbedion economaidd trwy osgoi difrod.

Roedd ymchwiliad y pwyllgor wedi para am bedwar mis ac fe fydd y mesur yn cael ei drafod yn awr gan y Cynulliad cyfan ar 24 Tachwedd.

Llun: Darn o system ddiffodd (Adrian Sampson CCA 2.0)