Mae’r ddrama ddiweddara’ i deithio ysgolion Cymru yn gobeithio gwneud i bobol ifanc Cymru ofyn cwestiynau am eu hawliau nhw’u hunain.
Yn y cynhyrchiad Hawl gan Iola Ynyr, mae’r gynulleidfa’n cael eu tywys drwy sganiwr i babell mewn lloches ffoaduriaid ar y ffin rhwng Kyrgyzstan ac Uzbekistan.
Yno, mae’r cymeriadau, sydd heb fawr o eiddo na chyfoeth i’w henwau, yn dod wyneb yn wyneb â chwestiynau mawr bywyd, fel:
• Pwy sy’n gwarchod ein hawliau?
• Pam fod cymaint o bobol yn amharchu hawliau eraill?
• Oes modd cyfiawnhau sathru rhai pobol pan mae’r mwyafrif mewn argyfwng?
• A ddylen ni gyfyngu ar hawliau lleiafrifoedd er mwyn gwarchod y mwyafrif?
Hyder a hawliau
“Pan ro’ ni’n mynd rownd ysgolion yn paratoi’r gwaith ac ymchwilio i weld pa mor anymwybodol oedd plant o’u hawliau,” meddai Iola Ynyr.
“Ro’ i wedi fy synnu gyda’r anwybodaeth, ac roedd o’n fy ngwneud i’n flin, bron. Felly, y peth pwysica’ i mi yw sbarduno plant i ofyn cwestiynau.”
Gobaith y ddrama, yn ôl Theatr Frân Wen, yw cynnal perfformiadau ar gyfer pobol ifanc ddi-waith a’r rheiny sydd wedi gadael yr ysgol, yn y gobaith y byddan nhw’n cael eu hannog i fynd am hyfforddiant a datblygu eu hyder.
Mae’r ddrama yn cael ei chyflwyno gan Iwan Charles, Carys Gwilym, Elen Gwynne, Neil Williams ac yn teithio ysgolion uwchradd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy tan 7 Rhagfyr.
Llun: trais yn Kyrgyzstan, lle mae’r ddrama Hawl wedi ei lleoli