Mae streic yn amharu ar raglenni newyddion y BBC am yr ail ddiwrnod o’r bron, gyda’r Post Cyntaf a Good Morning Wales unwaith eto wedi eu canslo.

Yn Gymraeg, dim ond bwletin byr sydd wedi ei ddarlledu gydag un o’r rheolwyr, Geraint Lewis Jones, yn darllen y newyddion.

Ond mae’r Gorfforaeth wedi llwyddo i ddarlledu un o’i rhaglenni radio pwysica’ – Today ar Radio 4 – gydag un o’r prif gyflwynwyr, Evan Davies, yn cymryd rhan.

‘Streic yn gadarn ddoe’

Ddoe, roedd yr undeb yn hawlio bod y streic ddeuddydd yn “gwbl gadarn” wrth i aelodau brotestio’n erbyn cynlluniau pensiwn newydd y BBC.

Roedd y streicwyr yn picedu y tu allan i ganolfan y BBC yn Llandaf ac, yn ôl llefarydd, roedden nhw wedi llwyddo i ddangos cryfder eu teimlad.

Os na fydd datrys yn y cyfamser, mae disgwyl streic ddeuddydd arall ymhen naw diwrnod.

Llun: Ystafell newyddion wag (O wefan yr NUJ)