Mae Aelod Cynulliad Cymreig wedi dweud nad yw’n cofio dim am ymosod ar dri gweithiwr paramedic a rhegi nyrsys mewn ysbyty.

Mae Mick Bates, AC Maldwyn, wedi dweud wrth lys ei fod yn dioddef o gyflwr anarferol a wnaeth iddo anghofio’n llwyr beth oedd wedi digwydd.

Mae’r gwleidydd 62 oed yn cyfadde’ gwirionedd yr honiadau am yr hyn a ddigwyddodd ond yn dweud nad oedd yn gyfrifol am hynny. Mae wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau o ymosod.

Mae’r achos wedi ei ohirio am ychydig tros fis er mwyn i’r llys gael adroddiadau meddygol amdano.

Y cefndir

Roedd Mick Bates wedi taro tri paramedic wrth iddyn nhw geisio’i helpu ar ôl iddo gwympo i lawr y grisiau mewn clwb nos yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore ar 20 Ionawr eleni.

Yn ddiweddarach, fe fu’n rhegi ar nyrsys, ond mae wedi dweud wrth y llys fod ganddo ofn afresymol o ysbytai.

Roedd wedi ei “arswydo”, meddai, pan sylweddolodd beth oedd wedi digwydd.