Fe fydd Dirprwy Brif Weinidog Cymru’n dweud wrth rali deledu yng Nghaerdydd bod y Cynulliad yn barod “i greu S4C newydd”.

Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn galw am ddatganoli’r cyfrifoldeb tros y sianel gan ddweud bod angen diogelu dyfodol y sianel gyda chyllid priodol er mwyn gwarchod yr iaith Gymraeg.

Gwrthod talu trwydded

Mae’n un o nifer o ffigurau amlwg a bandiau a fydd yn cymryd rhan yn y rali gan Gymdeithas yr Iaith yn ardal ddinesig Caerdydd gan ymosod ar fwriad y Llywodraeth yn Llundain i orfodi S4C i fynd yn rhannol dan reolaeth y BBC.

Fe fydd y Gymdeithas hefyd yn galw am ymgyrch fawr i wrthod talu trwyddedau teledu – yn debyg i’r ymgyrch er mwyn sefydlu’r sianel yn y lle cynta’.

Mae Ieuan Wyn Jones hefyd yn un o arweinwyr y pleidiau yng Nghymru sydd wedi anfon llythyr at Brif Weinidog Prydain, David Cameron, yn galw am adolygiad o ddyfodol y sianel.

‘Creu sianel newydd’

Dyma rannau o araith Ieuan Wyn Jones sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw:

“Mae fy neges i’r glymblaid yn San Steffan yn un syml. Os yw diogelu dyfodol ein sianel deledu genedlaethol yn faich i Weinidogion Llundain, yna datganolwch y cyfrifoldeb, datganolwch yr arian, a’i roi yn nwylo pobl Cymru.

“Mae pobl Cymru yn haeddu gwell na gweld llywodraeth yn Llundain yn gamblo gyda dyfodol ein sianel Gymraeg y tu ôl i ddrysau caeedig.

“Trosglwyddwch y cyfrifoldeb a throsglwyddwch y gyllideb, ac fe wnawn ni yn Senedd Cymru helpu i greu S4C newydd. Bydd yn sianel arloesol a chreadigol, yn darparu gwasanaeth aml-blatfform i wasanaethu ei chynulleidfa a’n heconomi.

“Byddwn yn llunio sianel sydd yn fentrus ac sy’n estyn allan at y farchnad ryngwladol, gan ddod â gwerth ychwanegol i’n cwmnïau yn y sector annibynnol.”