Mae Awstralia yn gallu ymddangos yn wlad eitha’ diflas. Mae’n siŵr ei fod o’n le hyfryd i fyw (mae’r tywydd yn sicr yn neisiach na fan hyn). Ac maen nhw’n sicr yn bencampwyr ym myd chwaraeon (fel y bydd Cymru yn ei ddarganfod eto fory mae’n siŵr).
Na, y broblem yng nghyd destun chwaraeon yw bod Awstralia yn fersiwn o Loegr nad ydan ni’n ei gasáu. Dw i’n credu y byddai’n well gan bron i bob un o gefnogwyr Cymru guro Seland Newydd, neu De Affrica, neu Loegr, neu hyd yn oed Ffrainc ac (yn ddiweddar) Iwerddon nag curo Awstralia. Does dim cymaint â hynny o bleser i’w gael wrth eu curo nhw a fyddai’n sicr ddim yn boddi fy ngalar os ydan ni’n colli yfory (o lai nag 20 pwynt o leia’).
Mae’n siŵr eu bod nhw’n teimlo yn union yr un fath am Gymru. Does gyda ni ddim byd yn erbyn ein gilydd. Warm-up ydan ni ar gyfer prif fusnes y daith, sef rhoi chwip-din go iawn i Loegr.
Efallai bod hynny i ryw raddau yn esbonio pam mai dim ond 50,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm yfory.
Rheswm arall, mae’n siŵr, yw’r gost. Dydw i ddim am dalu £100 i fi a fy nghariad/cyfaill weld Cymru yn cael crasfa. Fyddai’n well gen i wylio ar y teledu manylder uchel o gytre’ am ddim na thalu ffortiwn i wylio ar Deledu Mwya Prydain™ yn Stadiwm y Mileniwm.
Rheswm arall, mae’n siŵr, ydi bod Cymru yn cael eu maeddu bron bob tro. Efallai bod Warren Gatland yn credu bod herio’r tair gwlad ddeheuol mor aml â phosib am wneud Cymru yn well tîm (dwi’m yn gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth yna eto). Ond y gwir reswm dros ymweliad blynyddol cewri’r de ydi ei fod o’n gwneud llwyth o arian i URC. Y broblem yw bob y patrwm cyfarwydd o godi gobeithion cyn eu chwalu yn dechrau mynd yn undonog.
A hyd yn oed pe bai ni’n maeddu Awstralia yfory, sy’n digwydd bob hyn a hyn (yn wahanol i gemau De Affrica a Seland Newydd), dydw i ddim ddigon naif bellach i greu y byddai’r fuddugoliaeth yn esgor ar ryw oes aur newydd i rygbi Cymru.
Efallai y byddai’n well pe bai pob un o gewri’r de yn ymweld bob tair blynedd, ac yn mynd ar daith go iawn o’r wlad, gan chwarae sawl rhanbarth ar hyd y ffordd. O leia’ wedyn byddai gan y gemau ryw fath o bwysigrwydd hanesyddol, yn gofiadwy, ac yn adeiladu i uchafbwynt. Ond diwedd y gân yw’r geiniog amwn i.
Fel y mae hi, dyw ymweliad blynyddol y Qantas Wallabies ddim yn cydio yn y dychymyg. Efallai flwyddyn nesa’.