Mae Aelod Cynulliad sydd wedi ei gyhuddo o ymosodiad meddw ar barafeddygon wedi dweud wrth lys nad ydi o’n cofio dim.

Ymddangosodd AC Sir Drefaldwyn, Mick Bates, 62, o flaen Llys y Goron Caerdydd er mwyn rhoi tystiolaeth, heddiw.

Dywedodd nad oedd o’n cofio ymosod ar dri pharafeddyg na chwaith rhegi ar staff nyrsio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Er ei fod o’n gwadu ei fod o’n euog, mae o’n derbyn iddo wneud beth y mae ei ddioddefwyr yn ei honni. Mae o wedi ei gyhuddo o dri achos o ymosodiad cyffredin ac o darfu ar yr heddwch cyhoeddus.

Ei ddadl yw ei fod o wedi dioddef am adeg fer o gyflwr meddygol prin o’r enw awtomatiaeth, ac felly nad oedd o yn ymwybodol nac yn gyfrifol am yr ymosodiad ar y parafeddygon.

Dywedodd heddiw ei fod o wedi ei “arswydo” wrth ddysgu beth oedd o wedi ei wneud ac nad oedd o’n gallu esbonio beth ddigwydd yn gyhoeddus pan ymddangosodd y stori yn y wasg.

Cafodd yr achos llys ei ohirio tan 8 Rhagfyr, pan fydd arbenigwr meddygol yn rhoi tystiolaeth o blaid yr amddiffyn.


Y cefndir

Clywodd y llys fis diwethaf bod criw ambiwlans wedi eu galw i far o’r enw Charlston’s yn Stryd Caroline yng nghanol Caerdydd yn oriau mân bore 20 Ionawr eleni.

Fe ddaeth heddlu o hyd i Mick Bates yn gorwedd yn lled-ymwybodol ar risiau yno gydag anaf i’w ben – ond fe wrthododd fynd i’r ysbyty.

Yn ôl y parafeddygon roedden nhw wedi gorfod tynnu Mick Bates i lawr fesul gris a’i roi mewn cadair olwyn yn yr ambiwlans.

Dyna pryd y cafodd ei daro, meddai, ac, yn ddiweddarach, roedd yr AC wedi cydio’n galed yn arddyrnau un o’i gydweithwyr.

Yn ddiweddarach, fe ddywedodd Mick Bates wrth yr heddlu ei fod wedi cwympo i lawr y grisiau yn y bar.