Mae undeb y newyddiadurwyr yn honni bod bron eu holl aelodau wedi bod ar streic heddiw yn BBC Cymru.

Gyda’r streic yn effeithio ar Gaerdydd a Bangor, fe lwyddon nhw i atal y prif raglenni newyddion arferol – gyda dim ond bwletinau byr neu raglenni pum munud yn eu lle.

Roedd yr un peth yn wir ar draws y rhan fwya’ o wledydd Prydain wrth i’r NUJ gynnal streic deuddydd yn erbyn cynlluniau’r Gorfforaeth i newid amodau eu pensiwn. Roedd nifer o’r enwau mawr wedi aros allan hefyd.

Er bod yr undebau darlledu eraill wedi derbyn y cynnig, mae’r NUJ yn dweud y bydd eu haelodau yn gorfod gweithio’n hwy, talu mwy a chael llai o arian.

“Fe wnaethon ni gyflawni popeth yr oedden ni wedi ei fwriadu heddiw,” meddai llefarydd ar ran yr undeb yng Nghaerdydd, lle bu aelodau’n picedu trwy’r dydd.

Effaith ar ddarlledu rygbi?

Roedd yn awgrymu y gallai’r anghydfod, sy’n para fory, amharu rywfaint ar ddarlledu’r gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru ac Awstralia fory.

Roedd rhai gohebwyr chwaraeon yn aelodau o’r undeb, meddai, ac fe allai ambell gyfrannwr wrthod cymryd rhan rhag torri’r streic. Ond doedd ganddo ddim tystiolaeth bendant am hynny.

Y nod, meddai, oedd dangos nad oedd y cynnig pensiwn newydd yn dderbyniol a dangos beth oedd cryfder y teimlad yn ei erbyn wrth i’r undeb drefnu cyfres o streiciau deuddydd.

“Dw i’n credu y bydd y penaethiaid wedi gweld pa mor effeithiol oedd pethau heddiw,” meddai. “Os na fydd cymodi, fe fydd yr un peth yn digwydd eto ar 15 Tachwedd.”

Yr unig aelodau o’r NUJ i fynd i mewn yng Nghaerdydd oedd rhai o’r rheolwyr canol.

Llun: AC Plaid Cymru, Leanne Wood, yn ymuno gyda’r picedwyr yng Nghaerdydd (Llun gan Brian Morgan o wefan yr NUJ)