Mae dau fachgen 12 oed wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu arestio ar ôl tan yn Ysgol Gynradd Gofilon ger y Fenni bnawn ddoe.
Yn ôl Heddlu Gwent cafodd y ddau fachgen lleol eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol. Maen nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Yn ôl y gwasanaeth tân, roedd yr ysgol, a gafodd ei chau ym mis Awst, wedi ei llosgi’n fwriadol tua 5 brynhawn ddoe.
Fe gymerodd hi tua pedair awr i’r gwasanaeth tân reoli’r fflamau. Bu’n rhaid galw cerbydau tân o Flaenafon, Brynmawr, Glyn Ebwy a Phont-y-Pŵl.
Roedd yr heddlu wedi gofyn i rai bobol oedd yn byw gerllaw i adael eu tai dros dro tra oedd y gwasanaeth tân yn brwydro’r fflamau.
Llun: Yr ysgol yn llosgi – llun fideo o wefan pentref Gofilon, wedi ei dynnu gan un o’r trigolion.