Mae mwy na 400 o setiau teledu a system sain newydd wedi cael eu gosod yn Stadiwm y Mileniwm yn barod ar gyfer gêm gynta’ cyfres rygbi’r hydref yfory.
Mae’r buddsoddiad o £3m yn cynnwys dwy sgrin fawr newydd 90 metr sgwâr y tu ôl i’r pyst – y sgriniau mwyaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yr Undeb ei hun.
Ond wrth ddangos yr offer newydd am y tro cynta’, roedd rhaid i’r Undeb gydnabod mai dim ond 53,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu ar gyfer gêm Awstralia.
Fe fydd y setiau teledu llai yn frith drwy’r stadiwm ac yn darlledu lluniau mewn manylder mawr o ddigwyddiadau ar y cae ac oddi arno.
Mae’r setiau wedi cael eu gosod gan gwmni Cisco o’r Unol Daleithiau sydd eisoes wedi gosod systemau tebyg yn stadiwms timau pêl-droed Americanaidd y Dallas Cowboys, y New York Giants a’r New York Jets yn ogystal â thîm pêl fas y New York Yankees.
Fe fydd y system sain newydd hefyd yn sicrhau bod pawb yn gallu clywed unrhyw gyhoeddiad ble bynnag y maen nhw yn y stadiwm.
‘Eiddigedd’
“Fe fydd stadiymau chwaraeon ar draws Ewrop a’r byd yn eiddigeddus o’r system newydd yn Stadiwm y Mileniwm,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.
“R’yn ni am i bawb sy’n ymweld â Stadiwm y Mileniwm i adael gydag atgofion arbennig.
“Fe fyddwn ni’n gallu dangos lluniau o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn ogystal â’r gêm ei hunan. Fe fydd hynny’n cyfoethogi’r profiad o fod yn y stadiwm.”
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn credu y bydd y system newydd yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr a buddsoddwyr i’r stadiwm.
“Mae’n gyfle gwych i Stadiwm y Mileniwm yn ogystal ag economi Cymru. Mae’n gyfle da i fanteisio ar Gemau Olympaidd 2012.
“Roedd mwy na miliwn o bobol wedi ymweld â’r stadiwm llynedd ac mae’n gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru.”