Mae Undeb Myfyrwyr wedi gwahodd Nick Clegg i ymuno gyda phrotest yn erbyn ffioedd dysgu, ar ol iddo addo gwneud hynny cyn yr etholiad.
Roedd Nick Clegg a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi arwyddo addewid bryd hynny’n addo pleidleisio yn erbyn unrhyw gynnydd mewn ffioedd dysgu.
Ond datgelwyd ddydd Mercher bod Nick Clegg, sydd bellach yn Ddirprwy Brif Weinidog, yn bwriadu torri’i air ac y bydd yn pleidleisio o blaid treblu ffioedd i £9,000 y flwyddyn.
Fe fydd myfyrwyr a darlithwyr yn cymryd rhan mewn gorymdaith heibio i San Steffan ddydd Mercher nesaf er mwyn pleidleisio’n erbyn y cynlluniau.
Mae Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Aaron Porter, wedi galw ar y Dirprwy Brif Weinidog i ddod i’r brotest i esbonio’i safbwynt.
Beirniadu
“Dyw Nick Clegg ddim wedi esbonio pam y mae’n cefnogi’r cynnydd mewn ffioedd, ar ôl dweud chwe mis ar ôl y byddai’n ymladd yn erbyn unrhyw ymgais i’w cynyddu,” meddai Aaron Porter.
Mewn llythyr at Nick Clegg dywedodd ei fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi “addo yng ngynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ym mis Ebrill eich bod chi eisiau ymuno gyda ni er mwyn ymgyrchu yn erbyn codi’r ffioedd dysgu”.
“Fe fydden ni wrth ein boddau felly pe baech chi’n gallu ymuno â ni yn ystod yr brotest.”