Mae Harry Redknapp wedi dweud na fydd Gareth Bale yn gadael Tottenham hyd yn oed os na fydd y clwb yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.
Mae’r Cymro wedi bod yn denu sylw clybiau mwyaf Ewrop, gydag adroddiadau bod Real Madrid a Barcelona yn ystyried gwneud cynigion o tua £50m amdano.
Ddim yn poeni
Ond dyw rheolwr Spurs ddim yn credu bydd Bale yn gadael y clwb yn y dyfodol agos.
“Dyw’r holl sylw y mae Gareth wedi’i gael ddim yn fy mhoeni i. Mae Spurs yn cael sylw ac mae Ewrop gyfan yn siarad am y clwb,” meddai Harry Redknapp.
“Fydd e ddim yn gadael Spurs – hyd yn oed os na fyddwn ni’n ennill ein lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.
“Dyw Gareth ddim y math o berson fyddai’n mynnu symud i dîm arall sy’n chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr.
“Dw i ddim yn credu fod gan Gareth diddordeb mewn bod yn unrhyw le arall. Mae’n gwybod bod y clwb yma’n mynd i’r cyfeiriad cywir.”
Amheuon
Er gwaethaf ei berfformiadau gwych y tymor yma, roedd yna gyfnod pan oedd gan reolwr Spurs amheuon ynglŷn â’r Cymro, meddai.
“Roedd yna amser pan oeddwn yn poeni ei fod ychydig yn rhy neis. Roedd e’n mynd i lawr wedi’i anafu yn rhy hawdd, hyd yn oed mewn ymarferion.
“Roeddwn i’n credu bod angen iddo galedu a thyfu lan. Roedd n amlwg ei fod yn gallu chwarae ond roedd angen iddo ddod allan o’i gragen.”