Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru wedi arestio dau ddyn arall a gafodd eu dal yn potsian eogiaid yn Afon Sirhywi.

Cafodd dyn 29 oed o ardal Pontllanfraith ei arestio ddydd Mercher ar ôl i aelodau o’r cyhoedd ffonio’r Asiantaeth.

Fe gafodd y dynion 24 oed, sydd hefyd o ardal y Coed Duon, eu harestio ddoe ger Pontllanfraith wrth i swyddogion yr Asiantaeth gadw llygad ar yr ardal.

Mae potsio yn ystod amser yma o’r flwyddyn yn cael effaith sylweddol ar bysgod sy’n mudo ac yn peryglu stociau eogiaid y dyfodol, medden nhw.

“Mae’r rhain yn droseddau difrifol gyda goblygiadau o ran niferoedd yr eog ac i’r economi. Mae potsio’n drosedd ac mae yna gosb o £5,000 a tri mis yn y carchar,” meddai Rhys Hughes o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Mae hyn yn anfon neges glir i unrhyw un sy’n meddwl bod potsio yn dderbyniol ac y gallan nhw wneud hynny heb gael eu dal. Rydyn ni’n cynnal patrolau ac fe gewch chi eich dal.”