Mae mwy na 250 o garcharorion wedi eu symud i garchar arall ar ôl tair noson o derfysg mewn carchar yn Ne Swydd Efrog.
Lledaenodd yr anhrefn i uned oedolion carchar Moorland ar ôl dwy noson o derfysg yn y sefydliad troseddwyr ifanc sydd ar yr un safle yn Doncaster.
Dywedodd prif weithredwr y Gwasanaeth Carchardai, Michael Spurr, bod mwy o staff ar eu ffordd i’r carchar er mwyn “sicrhau sefydlogrwydd”, a’u bod yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.
Aethpwyd ag un carcharor i’r ysbyty ar ôl iddo gael ei anafu’n ddifrifol yn ystod y terfysg a barhaodd am saith awr neithiwr.
Y cefndir
Dechreuodd hyd at 100 o garcharorion daflu pethau a difrodi adain C yn y carchar tua 6.30pm. Galwyd swyddogion mewn dillad amddiffynnol arbennig ac fe ildiodd y carcharorion toc wedi 1.30am.
“Byddwn ni yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiadau yma,” meddai Michael Spurr cyn ychwanegu bod gweithwyr y carchar wedi gwneud eu swyddi’n dda o dan bwysau.
“Mae’r staff wedi gwneud gwaith gwych yn ystod y 72 awr diwethaf.”