Mae’r Gleision wedi cadarnhau bod cyn fewnwr Cymru a’r Llewod, Gareth Cooper wedi gadael y rhanbarth.
Penderfynodd Cooper adael y Gleision ar ôl i feddygon argymell iddo orffwys am hyd at 12 mis er mwyn gwella o anaf i’w werddyr sydd wedi’i achosi trafferthion i Cooper ers ymuno o Gaerloyw yn 2009.
“Rydw i wedi dod i gytundeb cyfeillgar gyda’r Gleision ac fe hoffwn i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd,” meddai Gareth Cooper.
“Mae wedi bod yn ddwy flynedd rwystredig i mi. Dw i ddim yn credu fy mod i wedi gallu dangos fy mhotensial llawn gyda’r Gleision.
“Fe gychwynnodd yr anaf yn haf 2009 ac mae wedi gwaethygu. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydw i wedi cael llawdriniaethau ac wedi chwarae mewn llawer o boen.
“Mae’r meddygon wedi dweud wrtha’i orffwys am rhwng chwech a 12 mis.
“Fe fyddai’n amlwg yn gweld eisiau’r holl chwaraewyr a’r tîm rheoli sydd wedi bod yn wych ers i mi ymuno, ac fe hoffwn i ddymuno pob lwc iddynt yn y dyfodol.”
Dim ond 22 gem oedd Gareth Cooper wedi eu chwarae i’r rhanbarth, gan sgorio dwy gais.
Fe chwaraeodd Cooper i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Eidal yn 2001, gan sgorio cais bryd hynny.
Fe chwaraeodd i Gymru yng Nghwpan y Byd 2003 a 2007. Fe helpodd Cymru i ennill y Gamp Lawn yn 2005 a 2008 ac fe gafodd ei gynnwys yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Seland Newydd yn 2005.