Bydd Cyngor Gwynedd yn gadael i bobol barcio am ddim yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig yn y gobaith o roi hwb i fusnesau’r sir.

Dywedodd y cyngor y byddai parcio am ddim o 13 Rhagfyr hyd at 28 Rhagfyr “er mwyn annog trigolion i siopa’n lleol ac i wneud y mwyaf o’r amrywiaeth o anrhegion Nadolig sydd gan Wynedd i’w gynnig”.

“Mae siopau a busnesau bach Gwynedd yn asgwrn cefn i’n heconomi leol ac rydym fel Cyngor wedi ymrwymo i’w cefnogi yn ystod y cyfnod economaidd heriol sydd ohoni,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfed Edwards.

‘Sefyllfa orau bosib’

“Mae sicrhau fod busnesau Gwynedd yn y sefyllfa orau bosib yn ystod amseroedd anodd yn allweddol er mwyn i ni allu cynnal economi gref yn lleol,” meddai’r Cynghorydd Gareth Roberts, sy’n arwain ar yr Amgylchedd ar Gyngor Gwynedd.

“Mae’r Nadolig yn amser perffaith i gefnogi busnesau lleol a dod o hyd i bob math o anrhegion unigryw,” ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Lewis, sy’n arwain ar yr Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd.

“Mae’r ymateb i’r cynllun parcio am ddim dros y Nadolig yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gadarnhaol iawn ymhlith siopwyr a busnesau ym mhob cwr o Wynedd wrth i fwy o siopwyr gael eu denu i ganol trefi Gwynedd dros gyfnod y Nadolig.”