Mae fforwm i drafod dyfodol S4C wedi cyfarfod am y tro cynta’ o dan arweinyddiaeth Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones.

Roedd tua 50 o gynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad, S4C a’r BBC, cwmnïau teledu annibynnol, yr undebau darlledu a rhai cyrff cenedlaethol eraill yn y fforwm yn swyddfeydd y Cynulliad yn Nhŷ Hywel heddiw.

Dywedodd Alun Ffred Jones bod y drafodaeth yn “agored ac adeiladol” a’u bod nhw wedi trafod eu pryderon ynglyn a threfn lywodreathol y sianel a sut y bydd yn cael ei ariannu.

O dan y trefniant newydd, fe fydd £76 miliwn o arian y drwydded deledu’n cael ei dynnu oddi ar y BBC a’i ddefnyddio i dalu am S4C ond bydd y BBC yn rhoi trwydded i’r sianel newydd ac yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei strategaeth a’i chynnwys yn gyffredinol.

Fe fydd S4C yn cwrdd â Syr Michael Lyons, pennaeth Ymddiriedolaeth y BBC, dydd Llun nesaf, 8 Tachwedd, er mwyn trafod y newidiadau.

Gwarchod annibyniaeth

“Rydw i’n hapus ein bod ni wedi gallu cynnal trafodaethau mor agored ac adeiladol y prynhawn yma gydag aelodau o ddiwydiant darlledu Cymru a phobol sydd â diddordeb yn y materion yma,” meddai Alun Ffred Jones.

“Beth ddaeth yn amlwg yn ystod y cyfarfod oedd bod angen cynnal a gwarchod annibyniaeth S4C.

“Fe ddylai’r sianel barhau yn ddarlledwr annibynnol gyda’i gyllideb ei hun a’r gallu i wneud ei benderfyniadau golygyddol a llywodraethol ei hun.

“Fe wnaeth cynrychiolwyr ar ran y diwydiant ei gwneud hi’n glir y dylai ei lleisiau nhw gael eu clywed yn ystod unrhyw drafodaethau yn y dyfodol ac fe fyddai’n cario eu neges nhw i Lywodraeth San Steffan.

“Bydd y manylion ynglŷn â threfn lywodraethol a chyllideb S4C yn cael effaith pellgyrhaeddol ar Gymru, yr iaith Gymraeg a’r sector diwydiannau creadigol yma.”

Rhan ganolog

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, ei fod o’n croesawu’r drafodaeth.

“Bydd S4C wrth reswm yn barod i chwarae rhan ganolog er mwyn sicrhau bod trefniadaeth y Sianel i’r dyfodol yn ateb gofynion y gwylwyr ar ddechrau’r 21ain ganrif,” meddai.

“Ers misoedd rydym wedi pwysleisio pwysigrwydd adolygiad cynhwysfawr o S4C a bydd ffrwyth gwaith Syr Jon Shortridge ar lywodraethiant corfforaethol y Sianel yn cael ei gyhoeddi yn fuan. Mae’n holl bwysig felly fod y broses o adolygu yn parhau.

“Yn y cyfamser bydd S4C a’r Adran Ddiwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon yn trafod oblygiadau cyhoeddiad y Gweinidog, Jeremy Hunt ac fel mae arweinwyr y pleidiau yn pwysleisio yn eu llythyr, bydd annibyniaeth S4C fel darlledwr cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg yn greiddiol i’r trafodaethau hyn,” meddai.