Rhybudd: Mae’r fideo yn cynnwys delweddau treisgar
Mae mudiad llysieuwyr wedi rhyddhau fideo sy’n dangos sut y mae cywion bach yn cael eu lladd mewn deorfeydd ym Mhrydain.
Mae un darn o’r ffilm yn dangos cywion byw yn cael eu bwydo i mewn siambr nwy a pheiriant sy’n eu rhwygo’n ddarnau.
Yn ôl mudiad Viva! mae 30 miliwn i 40 miliwn o gywion gwrywaidd yn cael eu lladd bob blwyddyn yn y ffatri.
Mae’r ffilm yn dangos y cywion yn teithio o gwmpas y ffatri yn Lloegr ar felt symudol. Caiff y cywion gwrywaidd eu gwahanu o’r cywion benywaidd cyn cael eu lladd.
Mae Viva! yn galw ar bobl i roi’r gorau i brynu wyau, gan ddweud bod cywion gwrywaidd yn y diwydiant yn cael eu lladd am nad ydyn nhw’n gallu dodwy wyau.
“Dyma beth mae’r diwydiant wyau wedi’i gadw’n gyfrinach ers blynyddoedd lawer,” meddai Justin Kerswell, rheolwr ymgyrch Viva.
“Bydd y fideo yn arswydo’r cyhoedd ym Mhrydain.”