Fe fyddai codi £9,000 y flwyddyn i fyfyrwyr astudio mewn prifysgolion yn Lloegr yn costio mwy nag £110 miliwn i Gymru bob blwyddyn, yn ôl y Gweinidog Addysg Leighton Andrews.
Roedd o’n ymateb i gynnig gan Lywodraeth San Steffan i godi’r terfyn ar ffioedd dysgu i £6,000.
Fe fydd Prifysgolion yn cael codi hyd at £9,000 mewn “amgylchiadau arbennig” os ydyn nhw’n cymryd rhan mewn cynllun £150m er mwyn denu myfyrwyr o gefndiroedd tlotach i addysg uwch.
Daw’r newid ar ôl i adroddiad gan gyn bennaeth BP, yr Arglwydd Browne, fis diwethaf argymell codi’r terfyn £3,290 sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai cost y benthyciadau a grantiau sydd ar gael i’r tua 16,000 o fyfyrwyr israddedig o Gymru sy’n astudio yn Lloegr yn chwyddo pe bai yna gynnydd mawr mewn ffioedd dysgu.
Yn ôl Leighton Andrews, byddai Cymru yn wynebu bil o £110m y flwyddyn pe bai pob prifysgol yn Lloegr yn codi £9,000 ar eu myfyrwyr.
Bydd cymhorthdal oedd yn dileu cost ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru mewn prifysgolion yng Nghymru yn cael ei ddiddymu’n raddol dros y blynyddoedd academaidd nesaf.
“Rydym ni wedi ei gwneud hi’n glir y dylai ein polisi ni yng Nghymru ehangu faint o bobol sy’n gallu cymryd rhan mewn addysg uwch,” meddai Leighton Andrews.
“Yn ganolog i’r polisi yma mae’r syniad y dylai mynediad i addysg uwch fod yn seiliedig ar botensial yr unigolyn i elwa ohono, nid ar sail faint y maen nhw’n gallu ei dalu.”
Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol
Dywedodd Mark Williams, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Geredigion, wrth Golwg360 nad oedd o’n gallu cyfiawnhau ffioedd o £9,000 i fyfyrwyr.
Roedd yr AS, sydd â dwy brifysgol, Aberystwyth a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant, yn ei etholaeth, wedi ymgyrchu ar sail dileu ffioedd myfyrwyr yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae o eisoes wedi dweud y byddai’n pleidleisio yn erbyn codi ffioedd myfyrwyr a dywedodd ei fod o’n “poeni am yr effaith” y byddai codi ffioedd dysgu yn ei gael ar fynediad i addysg uwch.
Roedd AS Canol Caerdydd, Jenny Wilott, hefyd yn gwrthwynebu cynnydd mewn ffioedd dysgu, meddai ei llefarydd wrth Golwg360 heddiw.
Roedd yr AS yn pryderu ynglŷn â “dyled myfyrwyr,” ond roedd hi eisiau gweld y “cytundeb terfynol” cyn penderfynu sut i bleidleisio.
‘Ysgwyddo’r gost’
Er mwyn i’r cynigion gael eu pasio, byddai’n rhaid i ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol “dorri eu haddewidion i fyfyrwyr,” meddai Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr heddiw.
“Byddai’r cynigion hyn yn torri faint o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario ar brifysgolion ac yn gorfodi myfyrwyr i ysgwyddo’r baich a thalu am y toriadau dinistriol,” meddai Aaron Porter, llywydd yr undeb.
“Does dim sicrwydd y bydd ansawdd y dysgu yn cynyddu – yr unig beth sy’n siŵr o gynyddu ydi’r ffioedd a’r dyledion sy’n wynebu myfyrwyr.
“Bydd nifer o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn teimlo’n hynod anghyfforddus wrth iddynt glywed datganiad [y gweinidog prifysgolion] David Willetts heddiw – gan wybod fod y Llywodraeth yn gofyn iddynt frysio’r cynigion hyn trwy’r Senedd a bradychu’r myfyrwyr a’u teuluoedd a bleidleisiodd o’u plaid nhw.”
Bydd myfyrwyr, darlithwyr ac eraill yn gorymdeithio drwy Lundain ar ddydd Mercher, 10 Tachwedd er mwyn protestio yn erbyn y toriadau i addysg uwch.