Mae Cheryl Gillan wedi ei beirniadu’n hallt heddiw, a’i chyhuddo o “fethu Cymru yn gyfan gwbl”.

Ymosododd cyfres o ASau Llafur a Phlaid Cymru ar Ysgrifennydd Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, heddiw.

Dywedodd Peter Hain y dylai hi gael ei diswyddo os nad oedd hi’n gallu amddiffyn swyddi yng Nghymru.

“Mae o wir yn fy nhristau nad oes gennych chi unrhyw ddylanwad o gwbl yn y Cabinet,” meddai.

“Rydych chi wedi methu ag amddiffyn S4C, rydych chi wedi methu ag amddiffyn yr academi filwrol, rydych chi wedi methu ag amddiffyn ‘ynys egni’ Môn, rydych chi wedi methu ag amddiffyn morglawdd yr Hafren, ac roedd setliad Cymru yn yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr yn ofnadwy,” meddai.

“Mae’n ddrwg gen i ddweud eich bod chi’n methu Cymru yn gyfan gwbl. Os nad ydych chi’n mynd i frwydro o blaid swyddi yng Nghymru, ddylech chi ddim bod yn eich swydd.”

Tarodd Cheryl Gillan yn ôl, gan ddweud bod “fy adran i yn amddiffyn Cymru, yn wahanol i gyn Ysgrifennydd Cymru (Peter Hain) a wnaeth gamu’n ôl a gadael iddi droi i mewn i’r wlad dlodaf ym Mhrydain, a’i chymharu â Rwanda.”

Mwy o golbio

Dywedodd yr AS Pontypridd, Owen Smith, bod y llywodraeth yn targedu “trefi cyfan yng Nghymru”, a gofynnodd cyn weinidog Swyddfa Cymru, Wayne David: “Gan nad yw eich adran chi yn amddiffyn Cymru, beth yn union ydach chi yn ei wneud?”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd bod Cymru wedi colli academi filwrol Sain Tathan, trydanu’r rheilffordd rhwng Llundain ag Abertawe, swyddfa basbortau Casnewydd, a charchar gogledd Cymru, ers i’r Llywodraeth ddod i rym.

“Beth ar y ddaear ydach chi’n ei wneud dros Gymru?” gofynnodd.