Mae golygydd materion byd-eang y BBC, John Simpson, wedi cyhuddo’r llywodraeth o “arteithio” y gorfforaeth drwy ei gorfodi i gymryd cyfrifoldeb dros S4C a gwasanaethau eraill.
Mewn llythyr sydd wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn mewnol Ariel y BBC, mae John Simpson yn cyhuddo’r Llywodraeth yn San Steffan o “ymosodiad digynsail” y BBC.
Roedd y llywodraeth wedi ceisio gorfodi’r BBC i dderbyn cost £556m y flwyddyn trwyddedau teledu am ddim pobol dros 75 oed, meddai.
Llwyddodd y BBC i osgoi hynny drwy gytuno i ariannu’r World Service a’r rhan fwyaf o gyllideb S4C o 2015 ymlaen.
“Roedd ymosodiad y llywodraeth ar y BBC heb gynsail. Cafodd y rheolau eu taflu drwy’r ffenestr, ac fe orfodwyd Mark Thompson i gytuno i drefn newydd sy’n rhoi dyfodol y BBC fel darlledydd annibynnol yn y fantol,” meddai John Simpson.
“Fe fydd ein hincwm ni’n syrthio bob blwyddyn am saith mlynedd hir. Fe fydd y Llywodraeth yn penderfynu beth fydd ein ffawd ni.
“Fydd y BBC ddim yn marw, ond ni fydd gweddill y byd yn eiddigeddus ohoni mwyach. Mae’n ganlyniad y bydd pobol adain dde eithafol ac ymerodraeth Murdoch yn ei groesawu.”