Mae pwyllgor seneddol yn Seland Newydd wedi penderfynu anelu at gael gwared ar ddefnydd tybaco’r wlad yn gyfan gwbl erbyn 2025.

Mae llywodraeth y wlad wedi croesawu’r cynllun i gyfyngu ar fewngludo a defnyddio tybaco, gan gytuno ei fod o’n gwneud drwg i iechyd pobol y wlad.

Ond mewn datganiad ychwanegodd y llywodraeth y byddai’n anodd iawn mynd ati i gael gwared ar sigarennau yn gyfan gwbl o’r wlad.

Yr unig wlad arall gyda pholisi tebyg yw’r Ffindir, sy’n anelu at gael gwared ar ysmygu yn gyfan gwbl erbyn 2040.

Mae teyrnas Bhutan ym mynyddoedd y Himalaya wedi gwahardd gwerthu sigarennau ers 2004, ond dyw hynny heb lwyddo i gael gwared arnyn nhw’n gyfan gwbl.

Maori

Mae tua 20% o boblogaeth 4.4 miliwn Seland Newydd yn ysmygu, ond mae tua 40% o bobol frodorol Maori’r wlad yn gwneud.

Roedd cost ysmygu i iechyd pobol Maori yn cael effaith ar eu diwylliant a’u datblygiad economaidd, yn ôl y pwyllgor.

“Mae’r nod yn syml,” meddai’r pwyllgor. “Rydym ni eisiau hanneru nifer y bobol sy’n ysmygu erbyn 2015 a sicrhau bod Seland Newydd yn wlad ‘ddi-fwg; erbyn 2025,” meddai adroddiad y pwyllgor.

Roedd y pwyllgor yn galw ar y llywodraeth i orfodi cwmnïau tybaco i dalu am hysbysebion a fyddai’n annog pobol i roi’r gorau i ysmygu.

Roedden nhw hefyd eisiau gweld mewnforion yn cael eu torri hyn a hyn bob blwyddyn, eisiau gwahardd hysbysebion tybaco, ac eisiau cynyddu pris tybaco uwchben chwyddiant bob blwyddyn.