Mae Al Qaida wedi bygwth mwy o ymosodiadau yn erbyn Cristnogion yn y dwyrain canol yn dilyn ymosodiad ar gapel Catholig yn Baghdad a laddodd 58 o bobol.

“Fe fyddwn ni’n agor drysau dinistr ac afonydd o waed,” meddai gwrthryfelwyr mewn neges ar wefan milwriaethus.

Mae Al Qaida hefyd yn honni bod yr Eglwys Coptaidd yn yr Aifft yn dal merched Mwslimaidd yn gaeth.

Rhyddhau’r merched oedd un o alwadau’r gwrthryfelwyr yn ystod y gwarchae ar nos Sul, yn ogystal â rhyddhau carcharorion Al Qaida yn Irac.

“Mae pob canolfan, sefydliad neu gorff Cristnogol, yn darged i’r muhajedeen,” medden nhw.

Doedd y datganiad ddim yn tynnu sylw at unrhyw ardal yn benodol, gan godi pryderon ynglŷn ag ymosodiadau ar Gristnogion ar draws y dwyrain canol.

Mae’r cyrch yn Baghdad wedi arswydo Cristnogion yno, ac fe ymgasglodd cannoedd ohonyn nhw am wasanaeth coffa yn y brifddinas ddoe.

Darllenodd un o’r swyddogion lythyr gan y Pab i’r dyrfa.

“Am flynyddoedd mae trais wedi taro’r wlad, ac mae’r Cristnogion wedi troi’n darged i’r ymosodiadau terfysgol erchyll,” meddai’r llythyr.