Mae papur newydd y Guardian wedi rhoi’r gorau i noddi Gŵyl y Gelli ac mae papur newydd y Telegraph wedi cymryd ei le, cyhoeddwyd heddiw.
Doedd trefnwyr yr ŵyl lenyddol flynyddol yn Y Gelli Gandryll ddim yn fodlon dweud pam eu bod nhw wedi newid noddwyr, gan ddweud nad oedden nhw’n trafod pobol oedd wedi eu noddi yn y gorffennol.
“Mae Hay wedi cael ei noddi gan sawl papur gwahanol dros y blynyddoedd,” meddai llefarydd ar ran yr ŵyl.
“Rydym ni wedi dweud popeth sydd angen ei ddweud a fyddwn ni ddim yn mynd i fanylder ynglŷn â’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniad.”
‘Llusgo traed’
Roedd y Guardian wedi bod yn noddi Gŵyl y Gelli ers bron i ddegawd, ond dywedodd y trefnwyr bod y cytundeb hwnnw wedi dod i ben ar ôl yr ŵyl y llynedd.
Yn ôl adroddiadau yn y wasg dros y misoedd diwethaf roedd y Guardian wedi llusgo’u traed dros y penderfyniad i noddi Gŵyl y Gelli.
Dros y blynyddoedd mae’r siaradwyr wedi newid o fod yn academyddion ac awduron yn unig i gynnwys rhai o enwau mawr byd busnes, teledu a gwleidyddiaeth.
Medden nhw
Mewn datganiad dywedodd cyfarwyddwyr yr ŵyl, Peter Florence, eu bod nhw wedi cael sicrwydd golygyddol gan y Telegraph a’r Sunday Telegraph y bydd awduron “yn cael lot mwy o sylw”.
Dywedodd papur newydd y Guardian ei bod hi “wedi bod yn fraint bod yn rhan o ŵyl ddiwylliannol mor wych a helpu i adeiladu ei enw da ym Mhrydain ers 2002, ond rydym ni’n awr yn edrych ymlaen at wthio strategaeth farchnata wahanol yn 2011”.