Mae maes chwarae newydd £6.5m ar gyfer rhanbarth Rygbi Gogledd Cymru wedi cael ei gymeradwyo ar ôl derbyn grant Ewropeaidd.
Mae Canolfan Ddigwyddiadau Parc Eirias ym Mae Colwyn wedi derbyn £4.8m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop er mwyn gorffen y gwaith.
Unwaith bydd y ganolfan wedi ei chwblhau, fe fydd y ganolfan yn cynnal bob math o ddigwyddiadau cymundol a chwaraeon, yn ogystal a bod yn gartref i Rygbi Gogledd Cymru.
Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’r flwyddyn nesaf.
Cyfleusterau
Bydd rhan o’r buddsoddiad ym Mharc Eirias yn mynd ar y cae rygbi, fel ei fod yn bodloni safonau uchaf Undeb Rygbi Cymru.
Fe fydd yna le i 2,500 o gefnogwyr mewn eisteddle dan do, yn ogsytal â llifoleuadau ac ystafelloedd newid i’r tîmau hefyd.
Yn ogystal â hynny fe fydd yna ganolfan dan do amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau cymunedol, cyfleusterau cynadledda ar gyfer digwyddiadau busnes, yn ogystal â maes chwarae dan do, campfa a chyfleusterau chwaraeon eraill.
Bydd maes parcio ychwanegol ar gael hefyd.
‘Adfywio Bae Colwyn’
“Erbyn hyn, mae gan Gymru enw da yn rhyngwladol ar gyfer digwyddiadau o fyd y campau a bydd y Ganolfan Ddigwyddiadau newydd hon yn helpu i sicrhau bod gennym ni’r cyfleusterau sydd eu hangen i hyfforddi darpar sêr y byd chwaraeon,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dilwyn Roberts wedi croesawu’r newyddion hefyd: “Rwy’n hapus iawn bod ein cais am arian gan y Cynulliad a’r Undeb Ewropeaidd wedi cael ei gymeradwyo,” meddai.
“Mae’r datblygiad hwn yn gonglfaen yn ein cynlluniau adfywio ar gyfer Bae Colwyn ac mae’n ein galluogi i gynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau diwylliannol, digwyddiadau cymunedol a digwyddiadau o fyd y campau.”