Mae pedair fan heb yrwyr wedi dod i ben eu taith 8,000 o filltiroedd o’r Eidal i China.

Mae’r faniau sy’n rhedeg ar egni solar yn cael eu rheoli gan gyfrifiadur sy’n gallu ‘gweld’ drwy gamerâu fideo er mwyn osgoi unrhyw rwystrau.

Wrth deithio i Shanghai, fe lwyddodd y faniau i ddygymod ag amrywiaeth mawr o ran ffyrdd, traffig a thywydd, meddai’r ymchwilwyr.

Amrywiaeth

“Doedden ni ddim wedi astudio o flaen llaw beth fyddai sefyllfa’r hewlydd a’r traffig a’r gyrwyr eraill, ac fe wnaethon ni ddod ar draws amrywiaeth mawr,” meddai un o’r peirianyddion, Isabella Fredriga.

“Roedd y cyfrifiadur yn anfon gorchymyn i’r llyw ac roedd hwnnw’n troi gyda’r hewl, gan ddilyn troeon ac osgoi rhwystrau.”

Er bod y faniau’n teithio heb yrwyr a heb fapiau, roedd ymchwilydd yn eistedd yn y cefn rhag ofn argyfwng.

Fe fu’n rhaid i’r ymchwilwyr ymyrryd ar ddau achlysur, unwaith pan aeth y faniau’n sownd mewn tagfa draffig yn Moscow, a dro arall pan ddaeth y faniau at dollborth.