Mae newyddiadurwyr y BBC yn bwriadu cynnal dwy streic 48 awr gan ddechrau’r wythnos nesaf, ar ôl ffrae ynglŷn â phensiynau.
Cyhoeddodd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) y bydd eu haelodau yn streicio ar 5-6 Tachwedd ac eto 15-16 Tachwedd, gyda mwy o streiciau i’w cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae’r BBC am gyflwyno newidiadau i’w chynllun pensiwn er mwyn mynd i’r afael â diffyg ariannol o £1.5 biliwn yn ei chronfa bensiwn.
Fe ddaw’r penderfyniad i streicio ar ôl i 70% o aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr wrthod cynnig “terfynol” gan y gorfforaeth.
Yn ôl yr undeb fe fyddai derbyn y cytundeb wedi golygu “talu mwy, gweithio’n hirach a derbyn llai o bensiwn”.
“Dyw’r bleidlais enfawr yn erbyn derbyn cynnig diweddaraf y BBC dim yn syndod wrth ystyried ei natur,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol NUJ, Jeremy Dear.
“Does gan ein haelodau ddim dewis ond gweithredu er mwyn amddiffyn eu pensiynau.”
Mae cyfarwyddwr BBC People, Lucy Adams, wedi galw ar aelodau’r NUJ, sy’n cynrychioli tua 17% o staff y gorfforaeth, i ail ystyried streicio.
“Dyma ein cynnig olaf ac ni allwn fforddio gwneud unrhyw newidiadau pellach heb orfod torri swyddi a gwasanaethau,” meddai Lucy Adams.
“Mae’r cynnig terfynol yn un realistig, fforddiadwy ac fe fydd yn sicrhau bod gan bobol bensiynau teg yn y dyfodol.”