Mae Aelod Seneddol Na h-Eileanan an Iar yn yr Alban, Angus MacNeil, wedi galw ar Ysgrifennydd Gwladol yr Alban am sicrwydd na fydd torri cyllideb y BBC yn effeithio ar ddarlledu Gaeleg.

Dywedodd Angus MacNeil o blaid yr SNP bod y toriadau 25% i gyllideb S4C wedi codi pryderon ymysg siaradwyr yr iaith Aeleg y bydd eu gwasanaeth nhw’n cael ei dorri yn yr un modd.

Mae’r gwasanaeth Gaeleg – BBC Alba – wedi ei grybwyll gan Weinidog Diwylliant San Steffan Jeremy Hunt, fel model posib ar gyfer y bartneriaeth newydd rhwng y BBC ac S4C .

“Mae Llywodraeth SNP yr Alban yn cefnogi BBC Alba – ond mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan wneud hynny hefyd,” meddai Angus MacNeil.

“Mae toriadau S4C yng Nghymru yn tanlinellu’r bygythiad i ddarlledu Gaeleg yn yr Alban. Ni ddylai Ysgrifennydd yr Alban ganiatáu i BBC Alba gael ei drin gyda’r un dirmyg a’i gymar Cymraeg.

“Daeth y glymblaid yn San Steffan i bŵer gan addo parchu’r Alban ond does dim tystiolaeth o hyd yn hyn.

“Os ydyn nhw’n ddifrifol o blaid trin yr Alban gyda pharch fe ddylen nhw addo cefnogi BBC Alba.”