Mae canolwr Cymru a’r Gleision, Jamie Roberts, wedi datgelu ei fod yn ystyried gadael y rhanbarth pan fydd ei gytundeb presennol yn dod i ben yn 2013.
Bydd y Cymro’n cadarnhau ei gynlluniau mewn cyfweliad gyda Rhodri Williams ar raglen olaf Rygbi a Mwy ar S4C – sy’n cael ei darlledu nos yfory.
Mae Jamie Roberts hefyd yn cyfaddef ei fod wrth ei fodd yn chwarae i’r Gleision ar hyn o bryd ond y byddai’n hoffi cael blas ar fyw yn Llundain neu Ffrainc yn hwyrach yn ei yrfa.
Yn ystod y cyfweliad mae’r canolwr yn dweud ei fod eisiau aros gyda’r Gleision hyd ddiwedd ei gytundeb pan fydd hefyd yn graddio o’i gwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ystyried bywyd i ffwrdd o Gaerdydd a Chymru.
“Sa’ i’n gallu gweld fy hunan yn chwarae i Gaerdydd drwy gydol fy ngyrfa. Rwy’n gobeithio gallu chwarae hyd at 34 neu 35.
‘Llundain neu Ffrainc?’
“Cyn hynny, fe fydden ni wrth fy modd yn blasu bywyd i ffwrdd o Gaerdydd, efallai yn Llundain neu Ffrainc,” meddai Jamie Roberts ar raglen Rygbi a Mwy.
“Ond ar y foment, rwy’n hapus gyda’r Gleision ac yn chwarae i Gymru – bydde fe’n ddwl i adael Cymru ar hyn o bryd”
“Rwy dal yn ifanc ac fe fyddai’n dda i mi fynd i wahanol lefydd ac ennill profiadau gwahanol, blasu diwylliannau amrywiol ac yn y broses, dysgu mwy amdanaf i fy hun.
“Rwy dan gytundeb i’r Gleision am ddau dymor ar ôl y tymor yma tan i mi raddio. Unwaith i mi orffen, fyddai’n cychwyn pennod newydd yn fy mywyd – gyda chlwb gwahanol o bosib – ond hefyd ar fy ngorau yn chwarae rygbi gobeithio.”
‘Nôl erbyn Nadolig’
Mae Jamie Roberts wedi colli dechrau’r tymor ar ôl cael llawdriniaeth yn dilyn anaf ond mae disgwyl iddo ddychwelyd i chwarae erbyn y Nadolig.
“Rwy’n gobeithio byddai’n gallu ymddangos yng ngemau’r Cwpan Heineken ar ddechrau Rhagfyr ond bydd yn anodd iawn dod nôl i’r gemau caled a chorfforol yn syth,” nododd Roberts.
“Y peth gyntaf fydd yn rhaid i mi wneud yw ennill fy lle nôl yn y tîm. Yn amlwg mae’r bois sy’n chwarae canol cae fel fi – i’r Gleision ac i Gymru – wedi bod yn chwarae’n dda felly bydd yn rhaid i mi weithio’n galetach nag erioed i adennill fy lle.”