Dyw Scotland Yard dal ddim yn gallu dweud i sicrwydd sut y buodd aelod o MI6 o Ynys Môn farw.
Daethpwyd o hyd i gorff noeth Gareth Williams, 30 oed, mewn siwtces yn ystafell molchi ei fflat yn Pimlico, Llundain, ym mis Awst.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi profi ei gorff am gyffuriau, alcohol a gwenwyn, ond nad oedd yna unrhyw olion o’r fath. Ni fyddan nhw’n cynnal profion pellach.
Mae’n bosib ei fod o wedi marw hyd at bythefnos cyn iddyn nhw ddod o hyd iddo, meddai Heddlu’r Met.
“Dyw canlyniadau’r profion tocsicoleg yn dilyn marwolaeth Gareth Williams ddim wedi dangos unrhyw ôl cyffuriau, alcohol, gwenwyn nac unrhyw sylwedd arall fyddai’n awgrymu sut y buodd farw,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Met.
“Does yna ddim cynlluniau i gynnal unrhyw brofion pellach o’r math yma, ond mae’r ymchwiliad yn parhau er mwyn ceisio sefydlu beth oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth.”