Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cytundeb newydd sy’n sicrhau y bydd pob gêm ryngwladol y mae Cymru’n eu chwarae yn yr hydref yn cael eu darlledu’n fyw ar y BBC tan 2013.

Mae’r cytundeb yn sicrhau bod y gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn mawrion rygbi hemisffer y de yn parhau i gael eu dangos am ddim. Mae’r cytundeb newydd yn cynnwys cyfres yr hydref eleni ac yn parhau tan gyfres 2013.

“Dw i wrth fy modd bod trafodaethau dwys wedi cyrraedd canlyniad llwyddiannus,” meddai Roger Lewis, Prif Weithredwr yr Undeb.

“Fe fydd y cytundeb yn adnodd ariannol pwysig i’r gêm yng Nghymru ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal ein gêm genedlaethol.

“R’yn ni’n awyddus i gymaint o bobol ag sy’n bosib gael tocynnau a mwynhau’r awyrgylch yn y stadiwm, ond r’yn ni hefyd am sicrhau nad yw’r bobol sy’n methu dod i Gaerdydd ddim yn colli.”

Gêmau’r Alban ac Iwerddon hefyd

Mae’r BBC hefyd wedi sicrhau cytundebau newydd gydag undebau Iwerddon a’r Alban i ddarlledu eu gemau hydref nhwthau hefyd.

“R’yn ni wrth ein bodd i adnewyddu ein partneriaethau gydag Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi Iwerddon ac Undeb Rygbi’r Alban,” meddai Pennaeth Chwaraeon Teledu’r BBC, Phillip Bernie.

“Mae gemau’r hydref yn tyfu yn eu hangerdd a’u pwysigrwydd wrth i’r gwledydd cartref brofi eu hunain yn erbyn timau gorau hemisffer y De a pharatoi ar gyfer y Chwe Gwlad.”

Llun: Stadiwm y Mileniwm