Heddiw, mae Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Elin Jones, wedi lawnsio cynllun grant i annog tirfeddianwyr, a ffermwyr, i dyfu coed ar y tir.
Nod y cynllun, sy’n cynnig grantiau i dirfeddianwyr greu coetiroedd newydd, yw helpu i dyfu mwy o goed brodorol.
“Mae coetiroedd yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i gwrdd â llawer o heriau a blaenoriaethau’r gymdeithas, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a rheoli dŵr,” meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones.
“Cymru yw un o’r gwledydd lleia’ coediog yn Ewrop, gyda choed yn gorchuddio 14% yn unig o arwynebedd y tir.”
Cyfle i ffermwyr
“Gall pob un tirfeddiannwr yma chwarae ei ran i godi’r ffigwr hwn drwy chwilio am gyfleoedd i greu coetiroedd newydd sy’n integreiddio â’u busnes fferm, ac yn ei ategu,” meddai Elin Jones.
Fe gafodd y cynllun ei lansio yn Fferm Clynblewog, ger Trelech, Sir Gaerfyrddin heddiw.
Gwella’r dirwedd
Fe ddywedodd y Gweinidog materion Gwledig fod Fferm Clynblewog yn “enghraifft wych” o sut y gellir defnyddio plannu coetiroedd i “ymdrin â materion ar y tir yn ogystal â gwella’r dirwedd.”
Fe gafodd grantiau creu coetiroedd newydd eu datblygu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, a fydd yn eu gweinyddu ar ran Llywodraeth y Cynulliad tan 1 Ionawr 2013. Yna, fe fydd y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i Dîm Glastir.
Llun: Elin Jones