Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne’r sir.
Mae’r ysgol yn rhan o gynlluniau ehangach gwerth £40 miliwn Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella ansawdd addysg ar draws Cymru.
Ar hyn o bryd, mae 13 o ysgolion cynradd Cymraeg yn ardal Castell-nedd Port Talbot, ond dim ond un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, a honno’n denu disgyblion o bob rhan o’r sir.
Ond, mae tystiolaeth arolwg mae awdurdodau wedi’i gynnal eisoes yn dangos y byddai mwy o rieni yn symud eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg pe bai yna lefydd ar gael.
Chwilio am safle
Nawr, fe fydd swyddogion yn chwilio am safle i’r ysgol.
Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad erbyn Rhagfyr 10fed ac fe fydd y Cyngor yn gwybod erbyn y Gwanwyn os ydyn nhw’n llwyddiannus ai peidio.
“Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael yr addysg o ansawdd uchel y maen nhw’n ei haeddu, ac sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif,” meddai Arweinydd y Cyngor, Ali Thomas.
“Dyma weledigaeth uchelgeisiol y Cyngor ar gyfer ysgolion, a’n dyheadau ar gyfer pobol ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot.”