Mae heddlu Ffrainc wedi gorfodi eu ffordd trwy flocâd gan streicwyr oedd yn rhwystro pobol rhag mynd a dod o burfa olew. Maen nhw’n protestio yn erbyn cynlluniau llywodraeth y wlad i ddiwygio’r drefn bensiwn ac i godi oed ymddeol.

Fe ddaeth heddweision mewn helmedau i’r ganolfan ger Grandpuits yn ystod y nos, gydag awdurdod gan gynghorau rhanbarthol i wneud yn siwr fod gweithwyr oedd yn streicio yn dychwelyd i’w gwaith.

Mae gweithwyr wedi bod yn gwersylla y tu allan i’r gwaith ers dyddiau, gan rwystro mynediad i’r burfa a chyfrannu at brinder tanwydd ar draws y wlad.


60 i 62

Mae purfa olew Grandpuits wedi dod yn ganolbwynt ffrae yn erbyn bwriad yr Arlywydd Nicolas Sarkozy i godi oed ymddeol o 60 i 62. Mae hyn yn rhan o ddiwygiadau pellach i’r sustem bensiwn yn Ffrainc,

Mae disgwyl i Senedd Ffrainc gymeradwyo’r bwriad yn ddiweddarach heddiw, er gwaetha’r streiciau a’r protestiadau radical.