Mae fferi cario pobol wedi troi drosodd ar un o’r camlesi ger Amsterdam, ac mae nifer o bobol wedi eu taflu i’r dwr, wedi i’r bad gael ei daro gan long nwyddau ym mhrifddinas yr Iseldiroedd.

“Mae’r gwasanaethau brys yn gwneud eu gorau i dynnu pobol o’r dwr,” yn ôl llefarydd, wrth iddo hefyd gyfadde’ nad oedd neb yn siwr faint yn union o bobol oedd ar y fferi sy’n cael ei defnyddio i gario pobol ar draws llwybr prysur Amsterdam-Rijnkanaal.

Mae deifwyr yn chwilio am bobol yn y dwr, ac mae hofrenyddion wedi bod yn cylchu uwchben gan ddefnyddio sensorau is-goch i ddod o hyd i gyrff cynnes.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 7 o’r gloch fore heddiw, amser lleol, ger tre’ Nieuwer Ter Aa, tua chwe milltir i’r de o Amsterdam.