Mae heddlu Sbaen wedi arestio 13 o bobol sy’n cael eu hamau o fod yn aelodau o gangen ieuenctid y mudiad terfysgol ETA.

Fe ddigwyddodd hyn yn gynnar heddiw yng ngogledd Gwlad y Basg ac yn ardaloedd Navarra a Catalonia gerllaw.

Fe fu cyrch ar nifer o dai gan tua 300 o heddweision oedd am dargedu’r mudiad ieuenctid Segi, sydd wedi ei wahardd.

Beio Segi

Mae heddlu Sbaen yn dal i gredu bod Segi yn cynnal sesiynau hyfforddi darpar-aelodau ETA, ac mae’r mudiad yn cael ei gysylltu â fandaliaeth yn erbyn adeiladau’r llywodraeth, banciau a swyddfeydd pleidiau gwleidyddol.

Mae ETA wedi lladd tros 800 o bobol yn ystod ei ymgyrch i wneud Gwlad y Basg yn rhanbarth annibynnol.