Mae dyn sydd eisoes wedi ei ddyfarnu’n euog o ladd, wedi trywanu athro a nifer o fyfyrwyr mewn ysgol yn ne’r Philippines heddiw. Fe gafodd pedwar o bobol eu lladd, a chwech eu hanafu yn y digwyddiad.

Fe aeth Fely Mateo i mewn i ystafell mewn ysgol yn ninad Zamboanga a thrywanu athro i farwolaeth.

Yna, fe aeth Mateo, sy’n diodde’ o broblemau meddyliol, i mewn i ystafell arall, casglu disgyblion i mewn i doiled, a’u trywanu nhwthau fesul un, tan i rieni gwffio’n ôl a thrywanu Mateo ei hun.

Lladd

Fe gafodd athro, dyn oedrannus a Mateo eu lladd yn ystod y digwyddiad.

Mae pedwar o fyfyrwyr a dau athro arall yn cael eu trin mewn ysbyty. Mae’r rheiny’n cynnwys disgybl 11 mlwydd oed ac athro sydd ill dau mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod Fely Mateo wedi treulio cyfnod yn y carchar oherwydd iddo ladd rhywun cyn hyn. Dyw hi ddim yn glir be’ sbardunodd yr ymosodiad heddiw.